P-05-710 – Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Whizz-Kidz, Cardiff Ambassador Club, ar ôl casglu 22 llofnod ar lein a 75 llofnod bapur = 97 llofnod

Geiriad y ddeiseb

Un o'r prif bryderon ar gyfer pobl sy'n gofalu am bobl ag Awtistiaeth yw'r diffyg dealltwriaeth gan athrawon ac eraill sy'n gweithio yn y proffesiwn addysg.

Tra bod addysgu yng Nghymru o ansawdd uchel, gellid gwneud gwelliannau o ran codi ymwybyddiaeth o Awtistiaeth, yn enwedig o ystyried pa mor gyffredin mae wedi dod yn y gymdeithas. Cynigir, fel rhan o'r adolygiad hyfforddi athrawon Saesneg, bydd Anghenion Addysgol Arbennig, gan gynnwys Awtistiaeth yn rhan allweddol o hyfforddiant athrawon yn Lloegr. Rhaid i'r adolygiad o

Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru sicrhau bod athrawon yn cael hyfforddiant penodol a statudol o ran cefnogi pobl ag Awtistiaeth fewn amgylchedd yr ysgol.

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         N/A